You are using the web browser we don't support. Please upgrade or use a different browser to improve your experience.
View job in - ENG|CYM

Cydlynydd Eiriolaeth Cymru

Wales

Posted 21/04/2024

£38,000 - £45,000 per annum

Top Reasons to Apply
  1. Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunangymhelliant ar gyfer rôl Cydlynydd Eiriolaeth Cymru i ymuno â'n tîm a helpu i lywio polisi a gweithgareddau eiriolaeth Rewilding Britain yng Nghymru.
  2. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn arloesol, blaengar a llawn cymhelliant sydd â hanes sicr o waith eiriolaeth, polisi neu ddylanwadu mewn sector perthnasol.
  3. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n helusen sy'n tyfu'n gyflym a chyfrannu'n uniongyrchol at dwf y mudiad ailwylltio.
Job Description

Rewilding Britain - Cydlynydd Eiriolaeth Cymru

Ers i Rewilding Britain gael ei sefydlu yn 2015, mae ailwylltio wedi newid o fod yn syniad arbenigol i chwarae rôl bwysig yn y frwydr yn erbyn rhai o'r heriau byd-eang mwyaf a wynebir gennym. Mae Rewilding Britain yn rhan annatod o'r newid hwn, yn gweithredu fel catalydd ar gyfer trafod a gweithredu, ac yn dangos pŵer gweithio gyda natur i greu byd cynaliadwy lle mae pobl yn ffynnu. 

Dychmygwch Gymru lle mae'r cysylltiad rhwng diwylliant a natur yn cael ei ailddeffro. Lle mae plethwaith cyfoethog o goetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd blodau gwyllt a glaswelltiroedd brodorol yn cael eu pwytho'n ôl at ei gilydd. Lle mae tiroedd a moroedd yn llawn bywyd a lle mae mentrau byd natur yn cefnogi cymunedau sy'n ffynnu ymhell ac agos. A dychmygwch fod hyn wedi'i arwain a'i gyflawni gan bobl leol.

Mae Rewilding Britain am weld prosesau ailwylltio yn ffynnu ledled 30% o Brydain, gan ein hailgysylltu â'r byd naturiol, cynnal cymunedau a mynd i'r afael ag argyfyngau natur a'r hinsawdd sy'n rhyng-gysylltiedig. 

Rydym yn dylanwadu ar bolisïau, yn ysbrydoli camau gweithredu cyhoeddus ac yn sbarduno cymorth ymarferol ac ariannol cydgysylltiedig er mwyn helpu i sefydlu prosesau ailwylltio ledled tiroedd a moroedd Prydain. Drwy Rewilding Britain sy'n tyfu'n gyflym, rydym am ddwyn ynghyd gymuned o ailwylltwyr – o reolwyr tir a ffermwyr, i elusennau, grwpiau cymunedol a pharciau cenedlaethol – i ysbrydoli a chefnogi ei gilydd i greu Prydain fwy gwyllt a mwy ffyniannus. Nid yw'n rhy hwyr – ond rhaid i ni weithredu nawr.

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunangymhelliant ar gyfer rôl Cydlynydd Eiriolaeth Cymru i ymuno â'n tîm a helpu i lywio polisi a gweithgareddau eiriolaeth Rewilding Britain yng Nghymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn arloesol, blaengar a llawn cymhelliant sydd â hanes sicr o waith eiriolaeth, polisi neu ddylanwadu mewn sector perthnasol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'n helusen sy'n tyfu'n gyflym a chyfrannu'n uniongyrchol at dwf y mudiad ailwylltio.

Diben y swydd: 

Mae mudiad ailwylltio sy'n tyfu ledled Cymru eisoes. Mae mwy a mwy o reolwyr tir yn chwilio am ffyrdd o ymgorffori ailwylltio i mewn i'w hymarfer, ar adeg lle mae Senedd Cymru yn ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod Cymru'n cyflawni ei hymrwymiadau o ran bod yn sero net ac adfer byd natur. Gan adeiladu ar hyn byddwch yn helpu i gefnogi'r broses o ddatblygu a chyflawni gweledigaeth gydweithredol dan arweiniad lleol a gwaith i sicrhau ei fod yn cael ei brif ffrydio o fewn polisïau ac ymarfer Llywodraeth Cymru.

Amcan y rôl: 

Ar y cyd â sefydliadau a rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, datblygu, ymchwilio ac arwain y broses o ddylanwadu ar bolisïau ar sail tystiolaeth, materion cyhoeddus a gweithgareddau ymgyrchu a fydd yn cefnogi'r gwaith o brif ffrydio prosesau ailwylltio mewn polisïau ac ymarfer yng Nghymru. 

Ymysg eich cyfrifoldebau bydd y canlynol: 

  • Cydlynu'r gwaith o gynllunio a chyflawni gweithgareddau polisi a dylanwadu yng Nghymru, yn bennaf drwy ddatblygu a gweithio gyda phartneriaethau newydd yng Nghymru
  • Ymgyfarwyddo â pholisïau a deddfwriaeth newidiol mewn perthynas â nodi cyfleoedd i ailwylltio er mwyn sicrhau newid cadarnhaol
  • Datblygu safbwyntiau polisi perthnasol a'u rhannu er mwyn dylanwadu ar yr amgylchedd polisi yng Nghymru
  • Casglu gwybodaeth ac ymchwil, crynhoi tystiolaeth a rhannu'r hyn a ddysgwyd er mwyn datblygu'r safbwyntiau polisi hyn
  • Sicrhau bod y cysylltiad rhwng lleoliaeth, cymunedau, diwylliant ac ailwylltio yn cael ei integreiddio yng ngwaith Rewilding Britain yng Nghymru.
  • Meithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid, yn enwedig â gweision sifil, gwneuthurwyr polisi, gwneuthurwyr penderfyniadau cenedlaethol a lleol a chyrff ymgyrchu/perchenogi tir/morol
  • Cydweithio ag aelodau'r Rhwydwaith Ailwylltio yng Nghymru i sicrhau ymgysylltu eang mewn gweithgareddau eiriolaeth ar y cyd, gan gefnogi hyn â thystiolaeth gymhellol o fuddiannau ailwylltio
  • Datblygu'r broses o greu dull cydweithredol at Ailwylltio yng Nghymru (e.e. yn debyg i ddull y Scottish Rewilding Alliance)
  • Darparu prosesau monitro a gwybodaeth wleidyddol i gydweithwyr ym mhob rhan o'r sefydliad ac i bartneriaid sy'n gweithredu yng Nghymru
  • Cydweithio â sefydliadau, dylanwadwyr ac ymgyrchoedd eraill

Sgiliau, profiad ac ymddygiadau:

Sgiliau a phrofiad

Hanfodol  

  • O leiaf bum mlynedd o brofiad o weithio gyda pholisïau, materion cyhoeddus a/neu ymgyrchoedd mewn maes perthnasol yng Nghymru
  • Dealltwriaeth amlwg o'r sefyllfa wleidyddol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru mewn perthynas ag ailwylltio
  • Trefnus iawn gyda sgiliau rhwydweithio ardderchog
  • Y gallu i ddadansoddi ymchwil a thystiolaeth i ddylanwadu ar bolisïau
  • Sgiliau cyfathrebu darbwyllol sy'n dylanwadu ac yn ysgogi
  • Y gallu i weithio'n annibynnol, gan ddangos menter wrth feithrin cydberthnasau ardderchog â'r tîm ehangach
  • Yn gallu cyfuno gweithgareddau polisi, materion cyhoeddus ac ymgyrchu yn fedrus, gyda thystiolaeth glir o effaith    

Dymunol

  • Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hynod ddymunol.
  • Profiad o reoli gwaith o bell
  • Profiad a dealltwriaeth o ailwylltio
  • Profiad o siarad yn gyhoeddus
  • Profiad o ddelio â'r wasg a chyfryngau eraill
  • Profiad o reoli prosiectau

Ymddygiad 

Hanfodol

  • Yn llawn hunangymhelliant a menter ac yn gweithio i wneud i bethau ddigwydd
  • Agwedd gadarnhaol, gydweithredol.
  • Angerddol, hyblyg ac addasadwy.
  • Llawn ffocws ac wedi eich ysgogi gan ganlyniadau.

Nid yw'r disgrifiad swydd hwn yn hollgynhwysol a gall newid i adlewyrchu angen. Gellir adolygu eich dyletswyddau o bryd i'w gilydd a'u diwygio a'u diweddaru mewn ymgynghoriad â chi er mwyn adlewyrchu newidiadau priodol.

Telerau ac amodau a buddiannau staff

Mae hon yn rôl lawnamser i weithio 35 awr yr wythnos, ond rydym yn agored i geisiadau gan y rheini sy'n awyddus i weithio 28 awr neu fwy yr wythnos.

Mae'r cyflog yn £38k - £45k y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad perthnasol).

Bydd rhywfaint o ryddid i'r person bennu ei drefniadau gweithio ei hun bob wythnos, o fewn cyfyngiadau, cyhyd ag y caiff y gwaith ei gyflawni.

Mae cyflogeion Rewilding Britain yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn (pro rata ar gyfer rolau rhan amser), yn codi i 30 diwrnod dros bum mlynedd. Mae cynllun pensiwn hael gyda chyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr hefyd ar gael.

Rydym yn dîm rhithiol sy'n gweithio o gartref a/neu mewn mannau cydweithio. Byddwn yn eich cefnogi i greu amgylchedd gweithio rhithiol addas. Cynhelir rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Prydain, felly mae parodrwydd i deithio gan aros dros nos yn achlysurol yn ddymunol.

Rydym yn bwriadu cynnal y cyfweliadau cyntaf dros Zoom ar 14 Mai 2024. Yna efallai y byddwn yn gwahodd ymgeiswyr dethol i gael ail gyfweliad wyneb yn wyneb.

Ceisiadau

Os ydych chi'n credu eich bod yn addas ar gyfer y rôl, anfonwch

  • eich CV
  • crynodeb dwy dudalen yn amlinellu eich dull strategol o gefnogi mudiad ailwylltio sy'n tyfu yng Nghymru, gan dynnu sylw at feysydd cyfyngol a sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain dros e-bost i jobs@rewildingbritain.org.uk erbyn 9am ar 1 Mai 2024. 

Defnydd o ddulliau deallusrwydd artiffisial: Nid yw Rewilding Britain yn derbyn llythyrau eglurhaol, cyflwyniadau nac atebion i gwestiynau recriwtio y mae eu cynnwys wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial a byddwn yn sgrinio ar gyfer hyn fel rhan o'n proses recriwtio. Nid yw Rewilding Britain yn defnyddio dulliau deallusrwydd artiffisial i adolygu ceisiadau ymgeiswyr; pobl go iawn fydd yn adolygu ceisiadau ac yn llunio rhestr fer.

Cydraddoldeb mewn cyflogaeth: Caiff ymgeiswyr eu rhoi ar restr fer a'u dethol yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y swydd ni waeth beth fo'u hoedran, anabledd, statws o ran ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd, hil, crefydd neu gred, rhyw na chyfeiriadedd rhywiol.

Nid yw Rewilding Britain yn noddwr trwyddedig ar hyn o bryd. Caiff unrhyw gynnig cyflogaeth ei wneud yn amodol ar hawl ddilys i weithio yn y DU.

Rewilding Britain
Company Information

Rewilding is hope for the future. It is the large scale restoration of nature to the point where it can take care of itself again - and take care of us. It can replenish, reconnect and revitalise nature, and has people, communities and green economies at its heart. It captures carbon, prevents flood and droughts and wildfires. It cleans air, soil and water. It improves our health and well being. Because if nature thrives, we all thrive.

Rewilding Britain was established in 2015 as the first charity in Britain focused on rewilding. We want to see rewilding restoring and rejuvenating 30% of Britain by 2030.

We prove that rewilding can work - by bringing together the hundreds of landowners and managers across Britain in our new Rewilding Network - large landowners, NGOs, farmers, community groups and local projects - to share experiences, research, expertise and support. We also push for policy change and funding to enable and support rewilding, and engage thousands more in campaigning, spreading the word and supporting us. Join us!

Key Facts
  • Head Office:

    The Courtyard, Shoreham Road, Upper Beeding, Steyning, West Sussex BN44 3TN.

Location
Similar jobs
Volunteer Recruitment and Engagement Coordinator
Cardiff
£22,047 - £29,000 per annum (Band 2)
View & Apply
Development Officer
Cardiff / Homeworking
£34,000 per annum (pro rata)
View & Apply
Cydlynydd Eiriolaeth Cymru
Wales
£38,000 - £45,000 per annum
View & Apply