Lay Council member
We are seeking to appoint a new Lay Council member
Remuneration: £14,000 per annum
Time commitment: Approximately 30 days per year
Location: In person Council meetings are held in our London office. Committee meetings are normally held virtually.
About the HCPC
The Health and Care Professions Council (HCPC) is a multi-professional regulator in the UK, regulating more than 360,000 health and care professionals across 15 professions. Our role is to protect the public by:
- setting the standards for the health and care professions we regulate;
- keeping an accurate Register of professionals who meet those standards;
- quality assuring education and training programmes;
- responding proportionately to fitness to practise concerns.
The HCPC is entering an exciting new strategic period, having just published our new corporate strategy 2026-31, which seeks to build on our successes of the last five years from a position of greater confidence and stability.
About the role
We are seeking to appoint a Lay Council member. The Council is the HCPC’s governing body, responsible for setting strategic direction, making key decisions and holding the Executive to account.
The post holder for this role is also likely to be asked to chair the Council’s Audit and Risk Assurance Committee.
As a Council member and Committee Chair, you will contribute to strategic decision-making, provide constructive challenge, and ensure good governance and effective risk management.
This is your opportunity to play a significant role in an organisation with national reach, deep societal impact and a clear statutory mission, and to help shape the current and future regulation of the sector.
About you
You will have:
- experience of strategic and collective decision-making;
- the ability to develop strong relationships;
- the ability to uphold the HCPC’s principles of transparency and accountability; and
- a commitment to public protection, equality, diversity and inclusion.
We want to hear from candidates with recent and relevant financial experience and an accountancy qualification.
Key details
Closing date: 10am, Monday 28 September 2026
Interviews: 13 November 2026
Start date: January 2027
Eligibility
This is a lay member role. Applicants must not be, and never have been, registered with the HCPC or eligible for registration.
Equality, diversity and inclusion
The HCPC is committed to equality of opportunity and welcomes applications from all sections of the community.
Aelod Lleyg o’r Cyngor
Rydym am benodi Aelod Lleyg newydd i’r Cyngor
Tâl: £14,000 y flwyddyn
Ymrwymiad amser: Tua 30 diwrnod y flwyddyn
Lleoliad: Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yn Llundain. Cynhelir cyfarfodydd pwyllgor ar-lein fel arfer.
Gwybodaeth am yr HCPC
Rheoleiddiwr amlbroffesiwn yn y Deyrnas Unedig ydy’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), ac mae’n rheoleiddio dros 360,000 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal ar draws 15 proffesiwn. Ein rôl ydy amddiffyn y cyhoedd drwy:
- osod y safonau ar gyfer y proffesiynau iechyd a gofal rydym yn eu rheoleiddio;
- cadw Cofrestr gywir o weithwyr proffesiynol sydd yn bodloni’r safonau hynny;
- darparu sicrwydd ansawdd ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant;
- ymateb mewn modd cymesur i bryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer.
Mae’r HCPC ar drothwy cyfnod strategol newydd cyffrous, gan ein bod newydd gyhoeddi ein strategaeth gorfforaethol newydd ar gyfer 2026-31, sydd â’r nod o ddatblygu ymhellach ar sail ein llwyddiannau dros y pum mlynedd diwethaf o sefyllfa lle ceir mwy o hyder a sefydlogrwydd.
Y rôl
Rydym am benodi Aelod Lleyg i’r Cyngor. Y Cyngor ydy corff llywodraethu’r HCPC, ac mae’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol, gwneud penderfyniadau allweddol a sicrhau bod yr Uwch-swyddogion yn atebol.
Mae’n debygol hefyd y bydd gofyn i ddeiliad y rôl hon gadeirio Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Cyngor.
Fel aelod o’r Cyngor a Chadeirydd Pwyllgor, byddwch yn cyfrannu at benderfyniadau strategol, yn darparu her adeiladol, ac yn sicrhau llywodraethu effeithiol a rheolaeth effeithiol ar risgiau.
Dyma’ch cyfle i gyflawni rôl arwyddocaol mewn sefydliad sy’n gweithio’n genedlaethol, yn cael effaith ddofn ar gymdeithas ac sydd â chenhadaeth statudol eglur, ac i helpu i ddylanwadu ar waith rheoleiddio’r sector nawr ac yn y dyfodol.
Chi
Byddwch yn meddu ar:
- brofiad o wneud penderfyniadau strategol ac ar y cyd;
- y gallu i ddatblygu perthnasoedd cryf;
- y gallu i gynnal egwyddorion tryloywder ac atebolrwydd yr HCPC; ac
- ymrwymiad i ddiogelu’r cyhoedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Hoffem glywed gan ymgeiswyr sydd â phrofiad ariannol diweddar a pherthnasol a chymhwyster cyfrifeg.
Manylion allweddol
Dyddiad cau: 10am, dydd Llun 28 Medi 2026
Cyfweliadau: 13 Tachwedd 2026
Dyddiad cychwyn: Ionawr 2027
Cymhwystra
Rôl aelod lleyg yw hon. Rhaid i ymgeiswyr beidio â bod wedi cofrestru gyda’r HCPC, nac yn gymwys i gofrestru, nac wedi bod erioed.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae gan yr HCPC ymrwymiad i gydraddoldeb cyfleoedd ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.