Remuneration: £80,000 for approximately 3 days a week
Location: In person meetings are held in our London office
The Health and Care Professions Council (HCPC) is the largest multi-professional regulator in the UK. We are seeking an exceptional Chair to lead the organisation at a pivotal point in its journey. Open to both lay and registrant candidates, this is a rare opportunity to lead a UK-wide patient-centred, adaptable regulator dedicated to protecting the public through evidence-based and proactive regulation.
Regulating more than 360,000 health and care professionals across 15 professions, this is an exciting time to join the HCPC. Our new corporate strategy 2026-2031 sets a clear direction for the years ahead. We are entering a period of significant opportunity and change, which includes regulatory reform within a complex and evolving landscape.
As Chair, you will lead the Council in overseeing HCPC’s strategic direction, ensuring effective governance, while fostering a culture grounded in our values. Working closely with Council members, the Chief Executive and Registrar and the executive team, you will maintain clear accountability between governance and delivery.
Acting as an ambassador for the HCPC, you will help to build trust and credibility with stakeholders across the UK and internationally, while also steering the organisation to deliver on our clear and demonstrable commitment to equality, diversity and inclusion.
This role calls for visible leadership, sound judgement, strong political acumen and the ability to command confidence. You must be able to chair effectively in an environment subject to high levels of external scrutiny. You will be a capable strategic thinker, with a sound appreciation of the four-country role of the HCPC as a UK wide regulator.
As well as being an excellent communicator, with the ability to listen, influence and build consensus, you will have the ability to inspire and motivate a diverse and ambitious organisation.
The successful candidate will bring substantial board level leadership experience and the authority and credibility to chair a complex and high profile public organisation. You will be motivated by the opportunity to make a lasting difference to people and communities across the UK.
We are committed to building a Council that reflects the diversity of the public we serve and the professionals we regulate, and we warmly welcome applications from people of all backgrounds and across England, Northern Ireland. Scotland and Wales.
Closing date: 10am 4 August 2026
Welsh version of the ad copy
Tâl: £80,000 am tua 3 diwrnod yr wythnos
Lleoliad: Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yn Llundain
Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ydy’r rheoleiddiwr aml-broffesiwn mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn chwilio am Gadeirydd eithriadol i arwain y sefydliad ar adeg dyngedfennol ar ei siwrnai. Mae croeso i ymgeiswyr lleyg a chofrestredig ar gyfer y cyfle prin hwn i arwain rheoleiddiwr sy’n gweithio ledled y Deyrnas Unedig, gan roi’r claf wrth galon pethau a bod yn barod i addasu er mwyn cadw at ein hymrwymiad i ddiogelu’r cyhoedd drwy reoleiddio rhagweithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Gyda mwy na 360,000 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn cael eu rheoleiddio ar draws 15 proffesiwn, mae’n amser cyffrous i ymuno â’r HCPC. Mae ein strategaeth gorfforaethol newydd ar gyfer 2026-2031 yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer y blynyddoedd sydd o’n blaenau. Rydym yn dod at gyfnod fydd yn cynnig cyfleoedd a newid sylweddol, gan gynnwys diwygio rheoleiddio mewn tirlun cymhleth sy’n esblygu.
Fel Cadeirydd, byddwch chi’n arwain y Cyngor yn y gwaith o oruchwylio cyfeiriad strategol yr HCPC, gan sicrhau llywodraethu effeithiol a meithrin diwylliant sydd wedi’i wreiddio yn ein gwerthoedd. Gan weithio’n agos gydag aelodau’r Cyngor, y Prif Swyddog Gweithredol a’r Cofrestrydd a’r tîm gweithredol, byddwch chi’n cynnal atebolrwydd clir rhwng llywodraethiant a gweithredu.
Fel llysgennad i’r HCPC, byddwch chi’n helpu i ddatblygu ymddiriedaeth a hygrededd ymhlith rhanddeiliaid ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ac yn llywio’r sefydliad er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad clir ac amlwg i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae’r swydd hon yn galw am arweinyddiaeth weladwy, crebwyll cadarn, dirnadaeth wleidyddol gref a’r gallu i ennyn hyder. Rhaid i chi allu cadeirio’n effeithiol mewn amgylchedd lle ceir lefelau uchel o graffu allanol. Byddwch chi’n feddyliwr strategol galluog, a bydd gennych werthfawrogiad cadarn o rôl yr HCPC mewn pedair gwlad fel rheoleiddiwr ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.
Yn ogystal â bod yn gyfathrebwr rhagorol, â’r gallu i wrando, dylanwadu a datblygu consensws, bydd y gallu gennych i ysbrydoli a chymell sefydliad amrywiol ac uchelgeisiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol o arwain ar lefel bwrdd a’r awdurdod a’r hygrededd i gadeirio sefydliad cyhoeddus, cymhleth ac uchel ei broffil. Byddwch chi’n cael eich ysgogi gan y cyfle i wneud gwahaniaeth hirdymor i bobl a chymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Rydym wedi ymrwymo i ffurfio Cyngor sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu a’r gweithwyr proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac o bob rhan o Loegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Dyddiad cau: 10am 4 Awst 2026